Glasfryn

Fencing & Sawmill

Hafan > Diogelu Ansawdd

Diogelu Ansawdd

Unwaith y bydd wedi'i beiriannu, mae’r holl bren yn cael ei adael i sychu yn yr aer i gynnwys lleithder rhwng 28% a 36%. Mae hyn yn sicrhau pan fydd y pren yna’n cael ei drin â chadwolyn (preservative) pwysau o fewn ein cyfleusterau ar y safle, mae ein holl bren yn destun y mesurau diogelu hirdymor mwyaf effeithiol sydd ar gael. Gan ddefnyddio Tanalith® E, y genhedlaeth ddiweddaraf o gadwolyn pren, bydd gan ein prennau a’n cynhyrchion pren gorffenedig oes hir heb unrhyw waith cynnal a chadw, byddant wedi’u hamddiffyn yn llwyr rhag pob math o bydredd ac ymosodiadau gan bryfed.

Gellir darparu tystysgrifau trinar gais sy'n cadarnhau bod y pren wedi’i amddiffyn yn berthnasol. Rydym ni hefyd yn cynnig gwasanaeth trin effeithlon, trwy drefniant ymlaen llaw, ar gyfer pren ein cwsmeriaid.

 

Coed yn cael ei beiriannu.
Tanalith Treatment Penetration

A. Ychydig iawn mae triniaethau brwsh neu chwistrell yn treiddio i’r pren. Bydd hollt yn y pren yn osgoi'r rhan sydd wedi'i thrin.

B. Mae pren sydd wedi'i drin â Tanalith® E yn cael ei drin yr holl ffordd drwy'r rhan gwyn sy'n agored i niwed.