Hafan > Proses Drin
Proses Drin
Gan ein bod yn cynaeafu o'n coetir ein hunain, gallwn gynnig gwasanaeth i'n cwsmeriaid sy’n llifio pren i ddarnau anarferol yn y coetir cyn addasu'r logiau o fewn y felin. Mae ein canolfan ffensio yn cynnwys rhai o'r offer technoleg diweddaraf i fanteisio i’r eithaf ar y pren sydd wedi'i gynaeafu. Mae peiriannau dirisglo (debark) pwrpasol yn sicrhau rowndiau pren glân yn barod i'w prosesu yn amrywiaeth eang o gynhyrchion ffensio. Gellir peiriannu pren i fanylebau manwl trwy ein gosodiad laser cwbl awtomataidd, a gefnogir gan lifiau band mwy traddodiadol, gan sicrhau'r defnydd mwyaf cynhyrchiol ac effeithlon o'r pren.
Proses Drin Tanalith E

Cam 1
Caiff pren ei lwytho i'r llestr trin a defnyddir gwactod i wacáu'r celloedd pren o aer.

Cam 2
Caiff y llestr ei llifo o dan wactod gyda chadwolyn pren Tanalith E.

Cam 3
Defnyddir pwysau hydrolig ac mae'r amser trin yn amrywio yn dibynnu ar ddefnydd terfynol y pren sy'n cael ei drin.

Cam 4
Mae gwactod terfynol yn echdynnu unrhyw hydoddiant cadw (preservative solution) sy’n weddill ac mae’n cael ei bwmpio'n ddiogel i'r storfa.

Cam 5
Mae gwasgedd isel y tu mewn i'r pren yn tynnu unrhyw hydoddiant cadw sydd ar yr arwyneb i mewn pan fydd y llestr yn cael ei awyru i'r atmosffer. Mae'r pren wedi'i drin yn cael ei adael i sychu ac mae'r cadwolyn hynod effeithiol yn cael ei gloi o fewn y celloedd pren.